Mae gan unrhyw un sydd yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth gryn dipyn o gyfrifoldeb i’r Ymddiriedolaeth. O edrych ar ôl asedau’r ymddiriedolaeth a’u hyswirio i weithio gyda buddiolwyr a sicrhau bod unrhyw drethi sy’n ddyledus yn cael eu talu.
Mae rheolau newydd yn golygu bod angen i Ymddiriedolwyr nawr hefyd sicrhau bod pob Ymddiriedolaeth wedi ei chofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (Trust Registration Service – TRS). Rhaid gwneud hyn cyn pen 30 diwrnod o’u creu neu erbyn 1af Medi 2022.
Nawr mae’n rhaid i Ymddiriedolaethau nad oedd rhaid iddynt gofrestru yn flaenorol gyda CThEF na fan arall gofrestru gyda’r TRS – mae hyn yn cynnwys hyd yn oed ymddiriedolaethau anhraethadwy ac ymddiriedolaethau peilot gyda dim ond swm bychan iawn o arian yn eu cyfrifon.
Mae ychydig o eithriadau megis ymddiriedolaeth person anabl neu ymddiriedolaeth a grëwyd gan orchymyn llys, ond dylai Ymddiriedolwyr gymryd gofal a gwirio pa reolau sy’n berthnasol i’w Hymddiriedolaeth.
Os ydych wedi cofrestru Ymddiriedolaeth yn flaenorol yna dylech wirio bod y cofrestriad yn gyfredol a’i fod yn cydymffurfio gyda’r rheolau newydd.
Pwy sy’n gyfrifol am Gofrestru’r Ymddiriedolaeth?
Mae pob Ymddiriedolwr yn gyfrifol am gofrestru’r Ymddiriedolaeth ond dylech hefyd ddewis un person i fod yn Brif Ymddiriedolwr a fydd yn cofrestru’r ymddiriedolaeth ar-lein a sicrhau bod y cofrestriad yn gyfredol.
Sut ydw i’n cofrestru’r ymddiriedolaeth?
Mae Ymddiriedolaethau yn cael eu cofrestru ar-lein. Gallwch ddechrau yma – https://www.gov.uk/guidance/register-a-trust-as-a-trustee.cy
Gwybodaeth sydd ei hangen i gofrestru’r Ymddiriedolaeth gyda’r TRS
Cyn ichi ddechrau’r broses gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol y gellir gofyn amdani fel rhan o’r broses gofrestru wrth law gennych.
Gwybodaeth ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth
- Enw’r Ymddiriedolaeth
- Dyddiad Creu’r Ymddiriedolaeth
- Y math o Ymddiriedolaeth e.e. Ymddiriedolaeth Ewyllys, Ymddiriedolaeth Amodol neu Ymddiriedolaeth Eiddo ac ati.
- A yw’r Ymddiriedolaeth wedi caffael tir neu eiddo yn y DU ers 6ed Hydref 2020?
- A yw’r Ymddiriedolaeth wedi ei Chofrestru ar Gofrestr Ymddiriedolaethau unrhyw wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)?
- A yw’r Ymddiriedolwyr wedi eu lleoli yn y DU?
Gwybodaeth ynglŷn â’r Setlwr – Dyma’r person a sefydlodd yr Ymddiriedolaeth.
- Enw Llawn
- Dyddiad Geni
- Dyddiad marwolaeth (ar gyfer Setlwyr sydd wedi marw)
- Cenedligrwydd
- Gwlad Breswyl
- A oes ganddynt Alluedd Meddyliol.
Os yw’r Setlwr yn sefydliad, yna bydd angen ichi wybod enw llawn y sefydliad yn ogystal â’r wlad ble mae wedi ei leoli ynddi.
Gwybodaeth ynglŷn â’r Ymddiriedolwyr a’r Buddiolwyr
- Enw Llawn
- Dyddiad Geni
- Cenedligrwydd
- Gwlad Breswyl
- Galluedd Meddyliol.
Mae’r TRS yn gofyn bod Prif Ymddiriedolwr yn cael ei benodi/phenodi. Felly, bydd angen darparu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol ynglŷn â’r Prif Ymddiriedolwr.
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif Cyswllt
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad e-bost
Gwybodaeth am yr asedau yn yr Ymddiriedolaeth
Bydd hyn yn amrywio o ymddiriedolaeth i ymddiriedolaeth.
Ar ôl ichi gwblhau cofrestriad eich Ymddiriedolaeth, byddwch yn derbyn Rhif Cofrestru Ymddiriedolaeth. Dylech gadw hwn a’ch manylion mewngofnodi yn ddiogel, am y bydd angen ichi eu defnyddio o bosib yn y dyfodol.
Cynnal Cofrestriad yr Ymddiriedolaeth
Mae’n bwysig nodi bod yr Ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru Cofrestr yr Ymddiriedolaeth wedi unrhyw newidiadau i’r Ymddiriedolaeth. Gall hyn fod yn newid Ymddiriedolwyr neu Fuddiolwyr neu’n newid i strwythur yr Ymddiriedolaeth. Rhaid i’r Ymddiriedolwyr ddiweddaru’r TRS ynghylch unrhyw newid cyn pen 90 diwrnod wedi’r newid i’r Ymddiriedolaeth.
Cyngor
Mae’r rhan fwyaf o Ymddiriedolwyr yn gallu cofrestru Ymddiriedolaeth yn weddol gyflym ar-lein unwaith iddynt gasglu’r holl wybodaeth ynghyd, fodd bynnag efallai y byddwch yn dymuno cael rhywfaint o gyngor proffesiynol.
Os oes gennych chi gyfrifydd, mae’n bosib yr hoffech siarad â hwy am ei bod hi’n bosib y byddan nhw wedi cofrestru’r Ymddiriedolaeth ar eich rhan.
Os gall Cyfreithwyr Gamlins LLP eich cynorthwyo mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â’n swyddfa ym Mangor i siarad â’n harbenigwr Ymddiriedolaethau, Carolyn Samuel – 01248 672414.