Bu llawer o newidiadau yng Nghyfreithwyr Gamlins LLP dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly roeddem yn awyddus i ddiweddaru ein cleientiaid, gan rannu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn eich cefnogi, eich diogelu a’ch cynrychioli chi ym mhob agwedd gyfreithiol ar fywyd a busnes.
Tros lawer o flynyddoedd rydym wedi darparu gwasanaeth o safon uchel drwy ein presenoldeb stryd fawr draddodiadol ar draws nifer o wahanol gymunedau yng Ngogledd Cymru, a chan ddod allan o ochr arall y pandemig byd-eang, rydym yn falch iawn o allu gwneud hynny eto, nawr ac i’r dyfodol. Rydym hefyd wedi gwrando wrth i bobl ddweud bod budd sylweddol o ganfod a defnyddio ein gwasanaeth ar-lein a thrwy alwadau fideo yn hytrach na dod i mewn yn unswydd i’n swyddfa, felly byddwn yn parhau i gynnig y lefel uchel yma o hygyrchedd a hyblygrwydd er hwylustod ein staff a’n cleientiaid yn y cyfnod modern hwn. Rydym yn hynod falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn cynnig ein holl wasanaethau naill ai drwy’r Gymraeg neu Saesneg, yn y gobaith ein bod yn darparu mynediad teg at gyngor, cefnogaeth a chyfiawnder cyfreithiol cywir i bawb.
Yn dilyn ymddeoliad diweddar tri chynbartner, rydym wedi croesawu sawl partner newydd i’r cwmni, gan ddod ag ystod o brofiad a hanes o sicrhau canlyniadau rhagorol i gleientiaid, ochr yn ochr â syniadau newydd ac amrywiol, ffyrdd newydd o weithio ac arbenigedd penodol ar draws sawl maes cyfraith bersonol a masnachol.
Rydym hefyd yn parhau i ehangu ein tîm o gyfreithwyr a staff cyfreithiol ymroddedig i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau oll gyda chymysgedd wych o brofiad, egni a brwdfrydedd ar draws ein holl safleoedd. Darllenwch fwy am ein tîm yma.
Mae newid arall yn ymwneud â’n partneriaeth ddiweddar ag elusen Tŷ Gobaith, gan helpu i gefnogi’r gwasanaethau trawsnewidiol y maent yn eu darparu i blant sâl a’u teuluoedd, yn eu lleoliad hardd a heddychlon yng Nghonwy.
Mae’r holl newidiadau blaengar yr ydym wedi eu gwneud i Gyfreithwyr Gamlins LLP wedi eu cyflawni er mwyn darparu gwasanaeth cyfreithiol gwell fyth i’n cleientiaid, gydag ymagwedd hyblyg sy’n ei gwneud hi’n haws i bawb gael y cymorth cyfreithiol cywir ar gyfer unrhyw fater personol neu fusnes.
Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth edrych i’r dyfodol, ac yn falch iawn o ddod â’n cleientiaid presennol hynod werthfawr, a chleientiaid newydd ar hyd y daith gyda ni.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd gennym i’w cynnig a sut y gallwn ni eich cynorthwyo.